Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.44 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Nododd y Rheolwyr Busnes fod dadl fer Leanne Woods, a oedd wedi'i hail-amserlennu o 18 Mawrth, wedi'i thynnu'n ôl.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 29 Ebrill 2015 –
Dydd Mercher 13 Mai 2015 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Bil yr Amgylchedd (Cymru)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil yr Amgylchedd (Cymru) at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
4.2 Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio'r penderfyniad ar amserlen y Bil tan gyfarfod yn y dyfodol i roi amser i ymgynghori â'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
4.3 Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru
Nododd y Pwyllgor Busnes bapur gan y Llywodraeth yn amlinellu ei phrif weithgarwch deddfwriaethol dros y misoedd nesaf.
5 Amserlen y Cynulliad
5.1 Dyddiadau ar gyfer toriadau'r Cynulliad 2015-16
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes ddyddiadau toriad hanner tymor yr Hydref a'r Nadolig ar gyfer 2015 a chytunodd ar ddyddiadau toriad dros dro hanner tymor y gwanwyn yn 2016.
Ar ôl ystyried amseriad y Pasg yn 2016, a pha mor agos y mae at ddiddymiad y Cynulliad, cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd ar ddyddiadau dros dro ar gyfer toriad y Pasg yn 2016. Adolygir y dyddiadau dros dro hyn ar ddiwedd y flwyddyn cyn cael eu cadarnhau.
|
Dyddiadau |
Hanner Tymor yr Hydref (1 wythnos)
|
Dydd Llun 26 Hydref 2015 - Dydd Sul 1 Tachwedd 2015 |
Toriad y Nadolig (4 wythnos)
|
Dydd Llun 14 Rhagfyr 2015 - Dydd Sul 10 Ionawr 2016 |
*Hanner Tymor y Gwanwyn (1 wythnos)
|
Dydd Llun 15 Chwefror 2016 - Dydd Sul 21 Chwefror 2016 |
*Toriad y Pasg
|
Dydd Llun 21 Mawrth 2016 - Dydd Mawrth 5 Ebrill 2016
(Bydd y diddymiad yn dechrau ar ddydd Mercher 6 Ebrill 2016)
|
*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
6 Y Rheolau Sefydlog
6.1 Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Cofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau
Nododd y Rheolwyr Busnes lythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o ran yr adroddiad ar Gofrestru a Datgan Buddiannau Aelodau, yn cadarnhau bod y diwygiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog yn gyson gyda bwriadau'r Pwyllgor a'r Comisiynydd Safonau.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn drafftio adroddiad ar y newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer cymeradwyaeth gan y Rheolwyr Busnes, a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor maes o law ynghylch amserlen i'r Cynulliad drafod y newidiadau arfaethedig.
Unrhyw Fater Arall
Cytunodd y Rheolwyr Busnes gyda chais gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi i gyfnewid ei sesiwn holi â'r slot sydd wedi'i neilltuo ar gyfer y Gweinidog Addysg a Sgiliau ym mis Gorffennaf, o 15 Gorffennaf i 8 Gorffennaf 2015.